Gwasanaeth i Drelars
Os oes arnoch angen gwasanaeth ar eich trelar neu os oes angen ei drwsio mae gennym weithdy helaeth sydd wedi ei gymeradwyo gan yr NCC ac mae gennym lawer o bartiau i drelars mewn stoc. Mae ein peirianwyr profiadol yn trwsio ac yn cynnal a chadw pob math o drelars gan gynnwys trelars ceffylau, trelars Ifor Williams a threlars masnachol ysgafn eraill. Gallwn roi gwasanaeth i unrhyw drelar bron gan gynnwys
- Trydan towio
- Goleuadau
- Hitshys ac offer towio
- Olwynion, gosod teiars, berynnau olwyn, brêcs
- Gwneuthuriad strwythurol dur / weldio
Hurio Trelars
Os oes arnoch angen hurio trelar, mae gennym 2 uned Ifor Williams sydd bron fel newydd i’ch helpu i gwblhau y tasgau sydd gennych ar eu cyfer. Cysylltwch â ni i weld os ydynt ar gael.
Rydym yn prynu a gwerthu trelars
Rydym hefyd yn prynu a gwerthu trelars. Os oes gennych drelar ar werth, anfonwch luniau atom i’n cyfeiriad e-bost info@caravan-spare-parts.co.uk ac fe rown wybod i chi a oes gennym ddiddordeb.
Fel arall, gallwch ddod â’r trelar draw atom i’r gweithdy ym Mhorthmadog i ni fedru rhoi archwiliad iddo ac os oes gennym ddiddordeb fe wnawn gynnig pris cystadleuol i chi.
Ffoniwch ni heddiw ar 01766 513589 am sgwrs am eich anghenion o ran trelars