Prynwch garafanau a cherbydau gwersylla ail-law gyda hyder.
Mae gennym amrywiaeth o garafanau a cherbydau gwersylla ail-law. Maent i gyd yn cael eu gwasanaethu yn ein gweithdy ar y safle sydd wedi ei gymeradwyo yn llawn gan yr NCC.
Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw gwneud yn siŵr fod popeth yn iawn pan fyddwch chi’n mynd ar wyliau, felly rydym yn sicrhau fod popeth yn gweithio fel y dylai. Mae gwiriadau asnawdd ein peirianwyr profiadol yn cynnwys (ond heb fod wedi ei gyfyngu i):
- Tamprwydd / Dŵr yn gollwng
- Gwirio fod cyfarpar yn gweithio ac yn ddiogel
- Cyflwr mewnol (dodrefn meddal, clicedi/hinjis cypyrddau, goleuadau, llawr)
- Trydan mewnol ac allanol
- Diogelwch (gan gynnwys y brêcs, trydan allanol ac offer towio)
- Paneli allanol, ffenestri, ffenestri to a’r trim
- Gosodiadau dŵr glân a dŵr budr
- Dyfeisiadau diogelwch (drysau, ffenestri, cloeon hitsh, cloeon olwyn)
Rydyn yn trwsio unrhyw ddiffyg
Os down o hyd i unrhyw ddiffyg wrth gynnal archwiliad manwl, byddwn yn trwsio unrhyw beth sydd ddim yn gweithio neu ddim yn cyrraedd y safon ofynnol neu byddwn yn gosod darn newydd. Rydym yn defnyddio’r deunyddiau gorau a’r brandiau gorau wrth drwsio carafanau fel y gallwch chi fod yn siŵr eich bod yn prynu carafán / cerbyd gwersylla o ansawdd da.
Rydym yn uwchraddio carafanau a cherbydau gwersylla
Weithiau ni fydd gan y garafán neu’r cerbyd hamdden/gwersylla ail-law sydd gennym ar werth rhyw elfen neu gyfleuster y mae arnoch chi ei angen. Os hynny, byddwn yn mynd ati i uwchraddio a gosod y pethau hynny i chi lle bynnag y bydd modd gwneud. Gallwn ychwanegu paneli solar, goleuadau mewnol newydd/ychwanegol, nodweddion diogelwch, gwaith trydanol ar reolyddion o bell a llawer o elfennau ychwanegol eraill. Os yw’n bosibl, fe’i gwnawn i chi.
Os oes arnoch angen prynu carafán ail-law, neu ran-gyfnewid carafán neu gerbyd hamdden/gwersylla, yna rhowch ganiad i ni ar 01766 513589. Gallwch hefyd gysylltu â ni ac fe anfonwn restr atoch o’r hyn sydd gennym ar hyn o bryd. Gallwn ddarparu lluniau/fideo os nad oes modd i chi yma i weld ein stoc o garafanau a cherbydau gwersylla ail-law drosoch eich hun. Os ydych yn