miscellaneous caravan equipment accessories and spares

Ategolion Carafanau

Ystod eang o ategolion carafanau

Yn ein canolfan werthu ym Mhorthmadog mae amrywiaeth enfawr o ategolion i garafanau, cerbydau hamdden a cherbydau gwersylla gan gynnwys adlenni i garafanau a cherbydau hamdden ac ategolion adlenni, eitemau addurno mewnol, offer cegin, offer dŵr glân a dŵr budr, offer coginio, gwresogi, BBQ, a phartiau ac offer trydanol sydd wedi eu cynllunio’n benodol i bobl sydd am deithio. Mae gennym eitemau wedi eu hanelu ar gyfer y rhai sy’n defnyddio cylchedau foltedd isel (12V/214V) neu brif gyflenwad 240V.

Gwnewch eich gwyliau a’ch teithiau yn haws ac yn fwy cyfforddus

Gall ein hamrywiaeth o ategolion defnyddiol helpu i wneud eich gwyliau yn fwy cyfforddus ac ymlaciol. Gall goleuadau naws greu ysbryd newydd fin nos, gall offer rheoli o bell eich helpu i ymlacio. Diweddarwch eich trydan i dderbyn pŵer solar, gosodwch socedi USB, mae cannoedd o ategolion defnyddiol a all eich helpu i wneud y mwyaf o’ch gwyliau – neu os ydych yn byw mewn cerbyd hamdden, i wneud bywyd yn haws. Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfarpar diogelwch i’ch cadw chi a’ch teulu yn ddiogel, ategolion ystafell ymolchi, cynnyrch glanhau a llawer o declynnau a gosodiadau handi.

Dewiswch o blith cynnyrch a brandiau o ansawdd

Rydym yn ddarparwr blaenllaw o ategolion carafanau, gan brynu eitemau o ansawdd gan dros gant o gwmnïau gan gynnwys:

  • FIAMMA
  • WHALE
  • W4
  • THETFORD
  • C-LINE
  • ALKO
  • CALOR
  • DOMETIC
  • DOREMA
  • FENWICKS
  • SILVERLINE
  • ISABELLA

..llawer llawer mwy!

Os nad oes gennym ni’r ategolyn carafán y mae arnoch ei  angen, fel wnawn ein gorau i ddod o hyd iddo i chi

Bydd ein siop ar-lein ar gael yn fuan i fedru prynu miloedd o ategolion carafanau a phartiau sbâr ar-lein. Yn y cyfamser gallwch ymweld â ni yn y cnawd. Os nad oes gennym rywbeth y mae arnoch ei eisiau mewn stoc, fe wnawn ein gorau glas i ddod o hyd iddo cyn gynted â phosibl. Mae pandemig Covid wedi gwneud ambell beth yn anodd dod o hyd iddynt ond rydym yn ymdrechu i ddod o hyd i bethau addas yn eu lle a byddwn wastad yn gadael i chi wybod yn gyflym os nad oes modd i ni gyflenwi rhywbeth yr ydych yn chwilio amdano. Mae prinder fel arfer yn digwydd oherwydd problemau gyda’r gadwyn gyflenwi ond mae gennym stoc helaeth felly ychydig iawn o bethau sydd na fedrwn eu cyflenwi.

Cysylltwch â ni heddiw ar 01766 513589 neu dewch i’n gweld yn y siop ym Mhorthmadog – mae staff cyfeillgar, sydd wedi cael hyfforddiant trwyadl yno i helpu!