Rydym yn trwsio a gosod offer trydanol mewn carafanau a threlars. Beth bynnag yw’r nam trydanol yn eich carafán neu os nad yw’r goleuadau’n gweithio ar eich trelar, gall ein peirianwyr gwasanaethu ganfod beth yw’r broblem a’i thrwsio yn gyflym ac yn broffesiynol. Rydym hefyd yn cyflenwi pob math o ategolion trydanol ar gyfer defnydd mewnol ac allanol.
Mae gennym amrywiaeth fawr o eitemau trydanol mewn stoc a gallwn drwsio amrywiaeth fawr o eitemau trydanol ar gyfer tu mewn a thu allan carafanau, cerbydau hamdden, cerbydau gwersylla a cherbydau eraill tebyg. Mae ein stoc yn cynnwys partiau ar gyfer:
- Cyfarpar
- Paneli solar a gwefrwyr
- Batris hamdden a ffynhonellau pŵer eraill
- Golau diogelwch allanol
- Golau adlen a golau allanol
- Golau mewnol
- Weirio trelars
- Ffitiadau 240V / 12V /24V a chysylltiadau
- Byrddau rheoli a byrddau cylched cyfarpar
- Offer trydanol foltedd isel
- Partiau diogelwch trydanol – ffiwsys, atalyddion ac ati
Beth bynnag yw eich anghenion am offer trydanol a phartiau sbâr i’ch carafán, cysylltwch â Carafanau Hamdden heddiw ac fe wnawn ein gorau i gyflenwir’ darnau a’r ategolion trydanol y mae arnoch eu hangen.