PARTIAU SBÂR CARAFANAU HAMDDEN

ifor williams trailer
inside1
Carafanau sbâr ac ategolion
frontofshop
Carafanau a ddefnyddir
adventure-camp-camping-699558
Offer gwersylla
trailer
Llogi trelars, darnau sbâr a thrwsio
previous arrow
next arrow

AMDANOM NI

Mae cwmni Partiau Sbâr Carafanau Hamdden wedi ei leoli ym Mhorthmadog, tref borthladd yng Ngwynedd. Dyma gwmni teuluol ac iddo hanes hir o arbenigo mewn gwerthu carafanau ail-law, trwsio carafanau, a phartiau sbâr ac ategolion i garafanau. Rydym yn gwybod popeth sydd i’w wybod am garafanau, sut i’w cynnal a’u cadw, eu trwsio a’u huwchraddio i’r safon uchaf.

Mae ein harbenigwyr yn cael gafael ar bartiau o’r ansawdd gorau i sicrhau fod ein gwasanaeth gwasanaethu carafanau yn dychwelyd eich carafán i’w chyflwr gwreiddiol – gwell na hynny mewn rhai achosion. Os oes arnoch chi angen partiau neu ategolion yna mi ddewch o hyd iddyn nhw yma yn ein siop.

Rydym hefyd yn gwerthu, gwasanaethu a darparu partiau i drelars (gan gynnwys trelars ceffylau) ac yn gwerthu amrywiaeth fawr o offer ac ategolion gwersylla. Os oes arnoch angen hurio trelar mae gennym drelars Ifor Williams i’w llogi – ffoniwch ni heddiw i drefnu.

Learn More

BETH RYDYM YN EI WNEUD

Dewiswch o blith partiau sbâr o ansawdd uchel i garafanau, gwasanaethau trwsio carafanau ac amrywiaeth fawr o offer gwersylla. Gallwn eich helpu i symud eich carafán, trwsio difrod, gwneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd, trwsio / uwchraddio trydan eich carafán ac mae ein peirianwyr arbenigol yn cynnal archwiliadau diogelwch ar garafanau.

Mae Carafanau Hamdden yn danfon partiau sbâr ac ategolion i garafanau ledled y Deyrnas Unedig, ac rydym bob amser yn barod i’ch helpu i ddod o hyd i beth bynnag y mae arnoch ei angen ar eich carafán, cerbyd hamdden neu drelar.

Partiau Carafán

Accessories

Ein siop partiau sbâr ac ategolion yw’r siop fwyaf o’i math, gyda’r amrywiaeth fwyaf o stoc, yn Ngogledd Cymru. Mae gennym yr holl brif frandiau mewn stoc.

Mae gennym filoedd o bartiau i garafanau a cherbydau gwersylla a phe na bai gennym yn digwydd bod yr hyn yr ydych yn chwilio amdano, yna os yw i’w gael yn rhywle, fe allwn gael gafael arno i chi.

Trwsio a Chynnal a Chadw

caravan repairs and maintenance

Ar gyfer eich holl anghenion o ran trwsio carafanau, cynnal a chadw ac uwchraddio, mae gennym weithdy ac ynddo’r holl offer angenrheidiol ar gyfer ein peirianwyr proffesiynol. Mae ein gweithdy ar y safle wedi ei gymeradwyo yn llawn gan yr NCC ac mae gennym stoc gynhwysfawr o bob math o bartiau y byddai eu hangen i drwsio ac uwchraddio eich carafán megis adlenni newydd ac ategolion eraill.

Ategolion Carafanau

caravan accessories

Yn ein canolfan werthu ym Mhorthmadog mae amrywiaeth enfawr o ategolion i garafanau, cerbydau hamdden a cherbydau gwersylla gan gynnwys adlenni i garafanau a cherbydau hamdden ac ategolion adlenni, eitemau addurno mewnol, offer cegin, offer dŵr glân a dŵr budr, offer coginio, gwresogi, BBQ, a phartiau ac offer trydanol.

Dŵr a Gwastraff

caravan plumbing

Mae rheoli’r cyflenwad dŵr a’r gwastraff yn bwysig os ydych am gael mwynhau eich gwyliau. Rydym yn gwybod sut i drwsio a chynnal a chadw pob agwedd ar gyflenwad dŵr carafanau, pympiau a systemau rheoli dŵr gwastraff.

Trydan

caravan interior electrics

Rydym yn trwsio a gosod offer trydanol mewn carafanau a threlars. Beth bynnag yw’r nam trydanol yn eich carafán neu os nad yw’r goleuadau’n gweithio ar eich trelar, gall ein peirianwyr gwasanaethu ganfod beth yw’r broblem a’i thrwsio yn gyflym ac yn broffesiynol.

Carafanau Ail-law

caravans for sale scaled

Prynwch garafanau a cherbydau gwersylla ail-law gyda hyder. Mae gennym amrywiaeth o garafanau a cherbydau gwersylla ail-law. Maent i gyd yn cael eu gwasanaethu yn ein gweithdy ar y safle sydd wedi ei gymeradwyo yn llawn gan yr NCC. Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw gwneud yn siŵr fod popeth yn iawn pan fyddwch chi’n mynd ar wyliau, felly rydym yn sicrhau fod popeth yn gweithio fel y dylai.

Gwasanaethu, Hurio a Gwerthu Trelars

trailer

Os oes arnoch angen gwasanaeth ar eich trelar neu os oes angen ei drwsio mae gennym weithdy helaeth sydd wedi ei gymeradwyo gan yr NCC ac mae gennym lawer o bartiau i drelars mewn stoc. Mae ein peirianwyr profiadol yn trwsio ac yn cynnal a chadw pob math o drelars gan gynnwys trelars ceffylau, trelars Ifor Williams a threlars masnachol ysgafn eraill. Gallwn roi gwasanaeth i unrhyw drelar bron gan gynnwys.

EIN PARTNERIAID

maypole logo

al ko quality for life logo

master htd logo

fiamma logo

kronings logo

grove products logo