caravan parts

Partiau i Garafanau

Ein siop partiau sbâr ac ategolion yw’r siop fwyaf o’i math, gyda’r amrywiaeth fwyaf o stoc, yn Ngogledd Cymru. Mae gennym filoedd o bartiau i garafanau a cherbydau gwersylla a phe na bai gennym yn digwydd bod yr hyn yr ydych yn chwilio amdano, yna os yw i’w gael yn rhywle, fe allwn gael gafael arno i chi.

Partiau Mawr a Mân

Mae gennym bartiau o ansawdd ar gyfer pob un o’r prif frandiau a chyflenwyr felly gallwch ddewis o blith yr eitemau mwyaf poblogaidd. Mae ein partiau yn amrywio o eitemau mecanyddol sydd eu hangen ar gyfer cynnal a chadw, i ddarnau sbâr ar gyfer offer, adlenni, offer dŵr a gwastraff a hyd yn oed yr eitemau lleiaf ar gyfer y trim, clipiau, gwifrau, ac offer trydanol a solar. Os oes arnoch angen clip bach plastig ar gyfer drws y ffrij neu set gyfan o hobiau nwy i’r stôf, mae gennym ni’r partiau ar eich cyfer i sicrhau bod eich carafán yn cael ei chynnal a’i chadw yn y cyflwr gorau posibl.

Gosod Partiau yn ein Gweithdy

Mae gennym weithdy mawr sydd wedi ei gymeradwyo gan yr NCC ac ynddo’r holl offer a’r peirianwyr sydd eu hangen i osod partiau newydd eich carafán; fel arall gallwch brynu’r partiau gennym ni a thrwsio’r garafán eich hunain. Bydd ein siop ar-lein yn agor yn fuan ar y wefan hon lle gallwch bori a phrynu partiau i garafanau.

Dewch i’n gweld yn y siop ym Mhorthmadog, neu os nad oes modd i chi ddod draw, ffoniwch ni heddiw ar  01766 513589 / cysylltwch â ni ar-lein ac fe ddown ni o hyd i’r darnau yr ydych eu hangen.